top of page
Build a den logo (9)_edited.png

Cyfrifyddiaeth     Cynllunio Treth      Cadw Llyfrau

Gwasanaeth Cymraeg yng Ngogledd Cymru

powell accountants ruthin
SERVICES
powell accountants ruthin

EIN GWASANAETHAU

Rydym yn arbenigo mewn helpu busnesau bach a mawr o bob sector i dyfu a bod yn llwyddiannus.

 

Mae helpu cwmnïau newydd drwy'r blynyddoedd cynnar yr un mor werthfawr â'r heriau technegol sy'n gysylltiedig â grwpiau corfforaethol ac elusennau mwy.

Approach

EIN HYMAGWEDD

Mae gan ein Cyfarwyddwr, Gareth, ddiddordeb arbennig mewn darparu cyngor a strwythuro busnes mewn ffordd effeithiol o ran treth.

Canolbwynt ein strategaeth yw bod ein cleientiaid yn teimlo'n gyfforddus i gysylltu â ni i drafod unrhyw faterion neu gynlluniau ar gyfer y dyfodol  cyn gynted â phosibl, heb ofni derbyn bil am wneud hynny.

Credwn fod perthynas agos yn chwalu’r rhwystrau sydd yn medru atal busnesau bach rhag cael gafael ar adnoddau na allai dim ond cwmnïau mawr eu fforddio yn draddodiadol.

powell accountants ruthin
Build a den logo (6).png

EIN PROFIAD

Mae gennym brofiad sylweddol o weithio gyda busnesau o sectorau lu megis cludiant, arlwyo, manwerthu, bariau, gwasanaethau, adeiladu ac elusennau ac rydym yn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob busnes, o'r busnesau bychain ar ddechrau eu siwrnai i'r endidau corfforaethol sefydledig.

 

Mae cefndir Gareth fel mab fferm sydd wedi arallgyfeirio i’r diwydiant glampio yn rhoi dealltwriaeth ymarferol i ni o’r heriau sy’n wynebu busnesau gwledig.

Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch â ni

Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost.

Certiicates
132-1321572_icaew-png-black-institute-of-chartered-accountants-in.png
xero-certified-advisor-logo-hires-RGB-e1541376639280.png
iaithgwaith_edited.png

© 2026 gan Powell Accountants

  • LinkedIn

Proudly created by JA Designs

bottom of page